Ymgynghoriad Diweddariad ar Gynyddu Capasiti Disgyblion Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd Yn dilyn cynnig yr ymgynghoriad i gynyddu capasiti Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, hoffai’r Corff Llywodraethol ddiolch i bawb a ymatebodd ac a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Cyhoeddwyd adroddiad ar wefan yr ysgol ar 17 Tachwedd 2021 yn rhoi canfyddiadau’r ymgynghoriad, a gallwch ei weld yma. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae’r Corff Llywodraethol wedi cysylltu â Chyngor Sir Ddinbych i drafod capasiti’r ysgol ac unrhyw gynnydd posibl. Ar ôl adolygu’r capasiti presennol ochr yn ochr â chapasiti hanesyddol yr ysgol am y 5 mlynedd flaenorol a’r cod trefniadaeth ysgolion, mae’n amlwg nad oes angen y cynnig statudol gan fod y cynnydd arfaethedig o dan 25% o’r capasiti presennol. Felly, yn unol a’r cyngor a dderbyniwyd, mae’r corff llywodraethu wedi penderfynu tynnu’r cynnig yn ôl ar y sail nad yw’n ofynnol yn gyfreithiol. Bwriad y Corff Llywodraethol yw gofyn am newid y nifer derbyn ar gyfer Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd o 15 i 18 fel rhan o’r cyfnod ymgynghori ar drefniadau Derbyn i ysgolion Sir Ddinbych ar gyfer 2023-24.
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs