Croeso i Wefan Ysgol Gynradd Llanfair Dyffryn Clwyd Ysgol reoledig, ddwyieithog, wledig yw Ysgol Llanfair DC gydag ethos Gymraeg gryf. Fe’i lleolir tua dwy filltir tu allan i dref Rhuthun ac mae’n gwasanaethu teuluoedd Llanfair, Pwllglas a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r ysgol yn darparu awyrgylch hapus a diogel ac yn cefnogi pob disgybl i ddatblygu i eithaf ei allu. Mae’r staff yn brofiadol, gofalgar ac yn ymrwymedig i gyfarfod anghenion yr holl ddisgyblion. Rydym yn ysgol ddwyieithog, ac mae’n flaenoriaeth gennym i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gadael yn 11 oed gyda’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. I’r perwyl hwn, bydd y disgyblion yn dod ar draws y ddwy iaith ym mhob gwers trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, gyda’r Gymraeg yn brif iaith cyflwyno. Cyflwynir gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ac, ar ddiwedd y cyfnod yma, caiff y disgyblion ddewis parhau â’u haddysg naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol, a gall pob disgybl ddisgwyl cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ysgol Llanfair yn falch o’i gwaith yn hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg ymysg yr holl ddysgwyr ac yn dathlu ei llwyddiannau niferus yn yr ardal dros nifer o flynyddoedd. Rydym hefyd yn ysgol gymuned sy’n llwyddo i godi safonau ymysg y plant i gyd ac yn ymrwymedig i sicrhau y bydd amser eich plentyn yn Ysgol Llanfair yn un pleserus ac ysbrydoledig. Sylwch: Gofynnwn i deuluoedd sydd â phlant rhwng 7 ac 11 oed sy’n ystyried Ysgol Llanfair, ac nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o addysg cyfrwng Cymraeg, i gyfeirio at ein Prosbectws gan dalu sylw arbennig i Bolisi Iaith Gymraeg yr ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod rhieni a phlant yn deall y ffordd mae’r ysgol yn gweithredu. Strategaeth Iaith yr Ysgol o Fedi 2023
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

@ysgllanfairdc