Gwybodaeth i Rieni Cinio Ysgol: Darperir cinio am hanner dydd i unrhyw blentyn sy’n dymuno hynny. Goruchwylir y plant gan staff wedi eu hapwyntio i’w swyddi gan Lywodraethwyr yr ysgol. Rydym yn gallu darparu ar gyfer plant ag alergeddau. Gellir dod â brechdanau i’r ysgol, ond ni chaniateir diod ‘ffisi’ na fferins yn y pecyn bwyd. Mae cinio am ddim i blant Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Cynllun Bwyta’n Iach: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o dystiolaeth wedi ei gasglu i gefnogi’r farn bod diet yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd. Yn unol â hyn, rydym yn ceisio hyrwyddo’r pwysigrwydd o fwyta’n iach. Ni chaniateir i’r plant ddod â fferins, creision, bisgedi, cacen, siocled i’w fwyta yn ystod amser chwarae. Yn hytrach, gellid prynu ffrwyth yn yr ysgol am 20c y dydd (£1 yr wythnos), neu ddod â ffrwyth o adre. Os ydy’ch plentyn yn dewis dod â phecyn bwyd i’w ginio, argymhellwn yn gryf eich bod yn cynnwys bwydydd iach, brechdanau, pasta, caws, iogwrt, llysiau amrwd, ffrwythau a.y.b. Ceisiwch osgoi bwydydd llawn braster a siwgr. Mae peiriant dwr oer yn yr ysgol a gofynnwn i bob plentyn ddod â photel i’r ysgol yn ddyddiol. Gwisg Ysgol: Defnyddir gwisg ysgol swyddogol yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd - • Crys chwys neu gardigan wyrdd (emrallt) gyda logo’r ysgol • Crys polo gwyn neu glas tywyll • Trowsus neu sgert glas tywyll plaen (nid trowsus chwaraeon gyda phatrwm neu linellau gwyn arno) • Esgidiau duon Yn yr Haf, caniateir i ferched wisgo ffrogiau ‘gingham’ gwyrdd ac i fechgyn a merched wisgo siorts glas tywyll. Gellir archebu’r crysau chwys/cardigan a’r crysau polo, gyda logo’r ysgol arnynt, o R & R Embroidery, Lôn Parcwr, Rhuthun. Gwersi Offerynnol: Cynigir gwersi gitâr a ffidil i blant blynyddoedd 3-6. Mae athrawon o gwmni Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych yn dod i’r ysgol unwaith yr wythnos i roi’r gwersi. Cost y gwersi yw £87.50 y tymor am 10 gwers chwarter awr yr un. Mae posib i blant gael benthyg offeryn i ymarfer adre. Amseroedd Agor a Chau’r Ysgol: Clwb Brecwast: 8.00 Gwersi bore: 9.00 - 12.00 Gwersi prynhawn: 1.00 - 3.15 Disgwylir fodd bynnag i bob plentyn gyrraedd yr ysgol rhwng 8.45 a 8.55 y bore. Clwb Brecwast: Mae Clwb Brecwast yn rhedeg bob bore. Cogyddes yr ysgol ac un o’r cymorthyddion sy’n gyfrifol am redeg y clwb. Mae pob plentyn sy’n dod i’r clwb rhwng 8.00 - 8.20 yn talu £1 y dydd ond yn rhad ac am ddim i bob plentyn sydd yn dymuno cael brecwast rhwng 8.20 a 8.50. Rhaid bod yn yr ysgol erbyn 8.35 i gael brecwast. Lincs Defnyddiol: Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych Diwrnod Diogelwch ar y We Addysg Gymraeg a Dwyieithog Diogelwch ar lein ar gyfer rhieni/gofalwyr
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs